Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
09 Mawrth 2020
SL(5)512 – Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae'r Rheoliadau hyn i'w darllen ar y cyd â Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020.
Mae'r Rheoliadau'n diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020). Effaith y diwygiad yw, pan fydd asiantaeth fabwysiadu yn pennu addasrwydd cwpl i fabwysiadu plentyn, rhaid i'r asiantaeth roi sylw priodol i'r angen am sadrwydd a sefydlogrwydd yn eu perthynas.
Gwneir y Rheoliadau o dan adrannau 9 a 45(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002
Fe’u gwnaed ar:
Fe’u gosodwyd ar: 20 Chwefror 2020
Yn dod i rym ar: